Llifogydd yng Ngwlad yr Haf
Fe fydd mwy na 1,400 o brosiectau ar gyfer amddiffynfeydd llifogydd yn cael arian er mwyn diogelu cannoedd ar filoedd o gartrefi.
Mae’r Trysorlys yn manylu ar brosiectau a fydd yn derbyn cyfran o’r £2.3 biliwn sydd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer gwariant ar amddiffynfeydd llifogydd dros y chwe blynedd nesaf er mwyn ceisio diogelu 300,000 o gartrefi.
Mae’n rhan o gyfres o gynlluniau isadeiledd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw.
Bydd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol mewn ardaloedd fel Aber Afon Humber, lle bydd £80 miliwn yn cael ei wario, a £196 miliwn ar brosiect Aber Afon Tafwys.
Mae gweinidogion hefyd yn gobeithio gwario £15.5 miliwn ar amddiffynfeydd llifogydd yng Ngwlad yr Haf dros y chwe blynedd nesaf, a £4.2m ar Wastadeddau Gwlad yr Haf a gafodd eu heffeithio gan y llifogydd dros y gaeaf y llynedd.
Yn ddiweddar, mae’r Llywodraeth wedi cael ei beirniadu am beidio gwario digon ar amddiffynfeydd llifogydd.