Mae bron i dri chwarter o bobol eisiau gweld cynghorau, yn hytrach na Llywodraeth Cymru, yn gwneud penderfyniadau am dargedau tai, yn ôl arolwg barn.

Mewn pôl i Gymdeithas yr Iaith, roedd 72% yn credu mai awdurdodau lleol ddylai gael y grym yn seiliedig ar anghenion lleol.

Roedd 11% yn credu mai awdurdodau cenedlaethol ddylai wneud y penderfyniadau. Fe ddywedodd 12% nad oedden nhw’n gwybod ac roedd 5% o’r farn na ddylai’r un o’r cyrff wneud y penderfyniadau.

Fe holodd YouGov 1,043 o bobol yng Nghymru ar-lein rhwng Hydref 23 a 30.

‘Dirywiad yn yr iaith’

Mae’r ymgyrchwyr iaith yn dadlau bod gorgyflenwad o dai sydd ddim yn fforddiadwy i’r boblogaeth leol a bod hynny wedi cael effaith andwyol ar y Gymraeg ar lefel gymunedol.

Yn ôl y mudiad, dangosodd ymchwil a gomisiynwyd gan Fwrdd yr Iaith yng Nghonwy yn 2011 bod nifer y tai a gafodd eu hadeiladu yn yr ardal honno wedi arwain at ddirywiad sylweddol yn yr iaith.

Mae’r Bil Cynllunio wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru sy’n rhoi pwerau i weinidogion wneud penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ar ddatblygiadau o bwys arwyddocaol i Gymru.

‘Gweledigaeth’

Dywedodd Tamsin Davies, llefarydd cymunedau cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith: “Mae’n gwbl glir bod pobl Cymru yn cefnogi ein safbwynt bod angen system gynllunio sy’n llawer agosach at bobl.

“Yn anffodus, mae Bil Cynllunio’r Llywodraeth, mewn nifer fawr o ffyrdd, yn canoli grym yn bellach oddi wrth bobl.

“Yn y cynigion rydyn ni’n eu cyhoeddi heddiw, rydyn ni’n amlinellu gweledigaeth arall, o sefyllfa lle mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn lleol, gyda rôl lawer fwy i gynghorau cymuned ac awdurdodau lleol.

“Mewn cyfarfod gyda ni, fe gyfaddefodd prif gynllunydd Llywodraeth Cymru bod gan awdurdodau obsesiwn gyda’r ystadegau am y twf poblogaeth genedlaethol. Nawr yw’r amser iddyn nhw ddatrys y broblem honno drwy sefydlu cyfundrefn newydd sydd ond yn ystyried anghenion lleol.”

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio ei Bil Cynllunio amgen yn y Senedd ym Mae Caerdydd am 12.30pm heddiw.

Mae hwnnw’n cynnig dileu dylanwad y Llywodraeth, yr Arolygiaeth Gynllunio a’r amcanestyniadau poblogaeth genedlaethol dros dargedau tai.