Llys y Goron Abertawe
Mae dyn 38 oed wedi pledio’n euog i gyhuddiadau o garcharu unigolyn yn anghyfreithlon yn dilyn cyrch arfog yn nhwr uchaf Cymru yn Abertawe.

Cafodd Lindsey Edward Coffey o Bontlliw ei arestio a’i gadw o dan y ddeddf iechyd meddwl yn dilyn y digwyddiad yn Nhŵr Meridian ym Marina Abertawe fis Awst.

Yn Llys y Goron Abertawe heddiw, fe ymddangosodd drwy gyswllt fideo a chyfaddef i gyhuddiad o fod â gwn ffug yn ei feddiant gyda’r bwriad o achosi ofn neu drais ynghyd a chyhuddiad o garcharu unigolyn yn anghyfreithlon.

Cafodd yr heddlu eu galw i Dŵr Meridian ym Marina Abertawe ar 8 Awst yn dilyn adroddiadau bod dyn â dryll wedi cymryd gwystlon ym mwyty’r adeilad 29 llawr.

Bydd Coffey yn cael ei ddedfrydu ddiwedd mis Ionawr 2015.