John Allen
Mae cyn-bennaeth cartrefi gofal yn ardal Wrecsam, a gafwyd yn euog o gam-drin 19 o blant yn ei ofal, wedi cael ei ddedfrydu i garchar am oes heddiw.

Bydd yn rhaid i John Allen dreulio o leiaf 11 mlynedd dan glo.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug wythnos diwethaf cafwyd y gŵr 73 oed yn euog o 27 o ymosodiadau anweddus, un cyhuddiad o ymddwyn yn anweddus â phlentyn a chwe ymosodiad rhywiol difrifol.

Mae’r achosion yn ei erbyn yn ymwneud ag 18 bachgen ac un ferch, rhwng saith a 15 oed, rhwng 1968 hyd at 1991.

Fe wnaeth Allen sefydlu cwmni Cymuned Bryn Alyn, grŵp o 11 o gartrefi plant ger Wrecsam yn 1968. Roedd y rhan fwyaf o’r achosion o gam-drin honedig wedi digwydd mewn tri o’r cartrefi – Bryn Alyn, Pentre Saeson a Bryn Terion.

Roedd yn ddieuog o ddau gyhuddiad, a doedd dim modd i’r rheithgor ddod i benderfyniad ynghylch tri chyhuddiad arall o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o ymddwyn yn anweddus â phlentyn.

Roedd Allen, o Needham Market, Ipswich, wedi gwadu’r 40 cyhuddiad yn ei erbyn.

‘Poen a thrallod’

Wrth ddedfrydu John Allen, dywedodd y barnwr Mr Ustus Openshaw:

“Mae’n anodd meddwl bod gymaint o droseddau difrifol wedi cael eu cyflawni ar gymaint o ddioddefwyr mewn cyfnod mor hir o amser, gan achosi gymaint o boen a thrallod.”

Ychwanegodd bod y rhan fwyaf o’r dioddefwyr yn dod o gefndiroedd difreintiedig a’u bod nhw angen gofal a gwarchodaeth.

Yn hytrach na hynny, fe gawson nhw eu dal mewn cyfundrefn o drais a braw gan “ddyn pwerus” a gafodd ei ddisgrifio gan un o’i ddioddefwyr “fel duw”.

Ymgyrch Pallial
Yn ystod yr achos, clywodd y llys bod John Allen wedi ei gael yn euog yn 1996 o ymosod yn anweddus ar chwech o fechgyn, rhwng 12 a 16 mlwydd oed, yn ei gartrefi gofal yn yr 1970au. Cafodd ei garcharu am chwe blynedd.

Yn yr un flwyddyn, cafodd Ymchwiliad Waterhouse ei lansio i edrych ar y mater o gam drin plant mewn gofal yn ardaloedd Gwynedd a Chlwyd ac fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi yn 2000.

Cafodd honiadau pellach eu gwneud ym mis Tachwedd 2001 a chafodd Allen ei gyhuddo o “honiadau rhywiol difrifol” yn ymwneud a nifer o fechgyn.

Ond nid oedd yr achos wedi parhau oherwydd pwynt technegol sydd ddim yn bodoli heddiw.

Cafodd Allen ei arestio eto gan swyddogion o Ymgyrch Pallial sydd wedi bod yn ymchwilio i droseddau rhyw hanesyddol mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru.

‘Dioddefwyr wedi cael eu clywed’

Wrth sôn am Ymgyrch Pallial, sef ymchwiliad yr Asiantaeth Troseddau Genedlaethol (NCA), dywedodd, Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: “Pan wnaeth honiadau hanesyddol o gam-drin rhywiol yn y system ofal yng ngogledd Cymru gyrraedd y penawdau newyddion yn 2012, roeddwn yn mynnu bod yn rhaid i’r dioddefwyr hynny gael eu clywed, eu cefnogi a’u trin yn sensitif. Ers gormod o amser, mae’r dioddefwyr hyn wedi cael eu tawelu.

“Ddwy flynedd yn ddiweddarach, rwyf wedi fy sicrhau bod dioddefwyr wedi cael eu clywed a bod achosion o gam-drin hanesyddol o’r diwedd yn cael eu harchwilio’n drwyadl gan Ymgyrch Pallial.”