Mae cynllun sgorio hylendid bwyd Cymru yn cael ei ymestyn i gynnwys busnesau masnachu, meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.
Cyflwynwyd y cynllun hylendid bwyd yng Nghymru, y cyntaf yn y DU, ym mis Tachwedd 2013, a nawr fe fydd hefyd yn cynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd a chynhyrchwyr cyfanwerthu sy’n gwerthu bwyd i fusnesau eraill.
Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd yn uniongyrchol i gwsmeriaid – bwytai, tafarndai, caffis a gwestai, yn ogystal ag archfarchnadoedd – ddangos eu sgôr hylendid bwyd.
Drwy’r estyniad, a ddaeth i rym union flwyddyn ers cyflwyno’r Ddeddf, bydd busnesau masnach bwyd sy’n cael eu harolygu o 28 Tachwedd 2014 yn cael sgôr hylendid bwyd am y tro cyntaf. Hefyd byddant yn cael sticer yn dangos y sgôr sy’n rhaid ei arddangos ar eu safleoedd.
Hefyd mae’n rhaid i’r busnesau a’u staff ddweud wrth eu cwsmeriaid beth yw’r sgôr os cânt eu holi.
Os na fyddant yn arddangos y sticer sgôr hylendid bwyd, efallai y byddant yn cael hysbysiad cosb benodol neu’n cael eu herlyn.
‘Llwyddiant mawr’
Dywedodd vaughan Gething: “Mae’r cynllun sgôr hylendid bwyd yn llwyddiant mawr. Heddiw, rwy’n cadarnhau ein bod wedi ymestyn y cynllun ymhellach i gynnwys gweithgynhyrchwyr bwyd a darparwyr cyfanwerthu nad ydynt yn gwerthu bwyd yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
“Mae hwn yn gam pwysig a fydd yn rhoi mwy o sicrwydd i fusnesau a defnyddwyr.”
Mae mwy na 50% o fusnesau bwyd yng Nghymru wedi cael sgôr o bump, sy’n golygu “da iawn”, ac mae nifer y busnesau bwyd â sgôr llai na boddhaol yn lleihau. Mae gan fwy na 92% o fusnesau bwyd yng Nghymru sgôr cyffredinol boddhaol neu’n well.
Ychwanegodd Vaughan Gething: “Mae’r gofyniad i fusnesau arddangos eu sticeri hylendid bwyd yn cael yr effaith a ragwelwyd o ran codi sgoriau hylendid bwyd.
“Rwy’n falch iawn o weld y gostyngiad yn nifer y busnesau bwyd â sgôr isel. Mae hyn yn dda i bobl Cymru ac i fusnesau bwyd yng Nghymru.”