John Allen (PA)
Mae cyn-bennaeth cartref plant yn Wrecsam wedi’i gael yn euog o 26 o gyhuddiadau o gam-drin plant.
Mae’r rheithgor yn Llys y Goron yr Wyddgrug yn parhau i ystyried 12 o gyhuddiadau eraill yn erbyn y dyn sydd bellach yn byw yn Swydd Suffolk ac mae wedi ei gael yn ddieuog o ddau arall.
Roedd John Allen, 73, wedi gwadu’r 40 o gyhuddiadau o gam-drin 20 o blant yn rhywiol rhwng y 1960au a’r 1990au.
Roedd yn bennaeth 11 o gartrefi gofal yn ardal Wrecsam yn y cyfnod hwnnw.
Mae’r achos wedi’i ohirio am weddill y dydd.