Mae rhai o heddluoedd mwyaf y DU wedi cofnodi cynnydd yn nifer y troseddau treisgar homoffobig eleni.
Mae cannoedd o ymosodiadau ar bobl hoyw a lesbiaidd wedi cael eu hadrodd i’r heddlu hyd yn hyn yn 2014 – gan gynnwys 162 yn ne Cymru a mwy na 300 yn Llundain.
Dywedodd elusen dros hawliau pobl hoyw ei fod yn “galonogol” bod mwy o bobl yn mynd at yr heddlu i adrodd am droseddau casineb, ond ychwanegodd bod nifer o ddioddefwyr yn dal i deimlo nad oedan nhw’n gallu mynd at yr heddlu.
Mae ffigurau sydd wedi cael eu rhyddhau i’r Press Association o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn datgelu bod 17 o heddluoedd yn y DU wedi cofnodi mwy o droseddau yn erbyn person sy’n cael eu hystyried yn homoffobig, rhwng mis Ionawr a Hydref na thrwy gydol y flwyddyn y llynedd.
Roedd Heddlu De Cymru wedi cofnodi 162 o droseddau homoffobig rhwng mis Ionawr a Hydref, o’i gymharu â 132 y llynedd a 89 yn 2012.
Yng ngogledd Cymru roedd yr heddlu wedi cofnodi 53 o droseddau homoffobig yn ystod yr un cyfnod. Mae’n gynnydd o’r 48 gafodd eu cofnodi’r llynedd, a 59 yn 2012.
Serch hynny roedd Heddlu Dyfed Powys wedi gweld gostyngiad yn nifer y troseddau homoffobig, gan gofnodi pump rhwng mis Ionawr a Hydref, o’i gymharu â saith yn 2013 a naw yn 2012.
Mae elusen Stonewall wedi rhybuddio bod troseddau casineb yn erbyn pobl hoyw yn broblem yn y DU ac mae wedi dweud bod yn rhaid i’r awdurdodau barhau i gymryd troseddau o’r fath o ddifrif.