Ysbyty Gwynedd
Mae meddyg o Wynedd ymhlith grŵp o 30 o weithwyr y gwasanaeth iechyd gwladol sydd wedi gadael am Affrica er mwyn ymuno yn y frwydr yn erbyn clefyd Ebola.
Dywedodd Dr James Lavers, sy’n feddyg yn uned gofal dwys Ysbyty Gwynedd, ei fod wedi gwirfoddoli i fynd i Sierra Leone oherwydd “fe all fod mai hon yw’r drychineb feddygol fwyaf yn ystod fy oes i, a fydd yn lladd cannoedd o filoedd o bobol yn y rhanbarth.”
“I atal hyn rhag digwydd ac i arbed nifer fawr o fywydau, rhaid i ymyrraeth ar lefel fawr ddigwydd nawr,” meddai’r meddyg 37 oed.
Wythnos o hyfforddiant
Mae Dr Lavers ymhlith grŵp o feddygon, nyrsys, a seiciatryddion a hedfanodd o Heathrow heddiw ac a fydd yn cyrraedd Freetown fore Sul. Byddan nhw’n derbyn wythnos o hyfforddiant cyn symud i ganolfannau trin Ebola, a gafodd eu hadeiladu gan Brydain, ledled y wlad.
Eisoes mae Prydain wedi anfon 1,000 o swyddogion i’r rhanbarth, gan gynnwys milwyr, gwyddonwyr, gweithwyr gofal iechyd a gweithwyr dyngarol, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol Justine Greening dyma un o ymatebion mwyaf Prydain erioed i glefyd.
Mali
Mae Ebola wedi lladd dros 5,000 o bobol, yn bennaf yn Guinea, Liberia a Sierra Leone, ond mae pum achos diweddar wedi bod ym Mali.
Cafodd achos newydd ei gadarnhau yno heddiw, ac mae dau glaf arall yn cael profion yn y wlad am fod amheuaeth eu bod nhw’n dioddef o’r clefyd hefyd.
Mae’r pum person a fu farw ym Mali yn gysylltiedig ag imam 70 oed a deithiodd i’r wlad o Guinea, lle dechreuodd Ebola.