Jamie Roberts yn cael ei daclo gan Kieran Read (Llun: Andrew Matthews/PA Wire)
Cymru 16–34 Seland Newydd

Roedd Cymru yn y gêm am 70 munud yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn ond dangosodd y Crysau Duon pam mai hwy yw tîm gorau’r byd mewn deg munud olaf dinistriol.

Roedd Cymru ddau bwynt ar y blaen gyda deg munud i fynd ond gorffennodd y gêm yn fuddugoliaeth gyfforddus i’r ymwelwyr wedi tri chais hwyr.

Hanner Cyntaf

Daeth pwyntiau cyntaf y gêm wedi saith munud wrth i gic gosb Leigh Halfpenny roi Cymru dri phwynt ar y blaen.

Fe fethodd Beauden Barrett un cyfle i unioni’r sgôr cyn llwyddo gyda’i ail gynnig hanner ffordd trwy’r hanner.

Cafodd Cymru hanner cyfleoedd am gais wedi hynny ac roeddynt yn chwarae’n dda. Bu rhaid iddynt amddiffyn yn ddewr serch hynny ym munudau olaf yr hanner cyntaf i gadw’r sgôr yn gyfartal ar yr egwyl.

Ail Hanner

Dim ond tri phwynt yr un yn yr hanner cyntaf ond roedd yr ail hanner gan gwaith gwell ac roedd Seland Newydd wedi creu cais i Julian Savea yn y gornel chwith wedi dim ond dau funud.

Trosodd Barrett y cais hwnnw i roi’r ymwelwyr saith pwynt ar y blaen ond roedd Cymru’n gyfartal o fewn dim diolch i gais Rhys Webb a throsiad Halfpenny. Croesodd Webb yn dilyn rhediad da gan Taulupe Faletau, 10-10 gyda hanner awr i fynd.

Rhoddodd cic gosb Halfpenny Gymru ar y blaen cyn i Jerome Kaino fanteisio ar gic letraws wych Barrett i groesi am ail gais y Crysau Duon.

Methodd Barrett y trosiad serch hynny ac roedd Cymru ar y blaen eto gydag ychydig dros ddeg munud i fynd diolch i drydedd cic gosb Halfpenny.

Ond gorffennodd Seland Newydd yn nodweddiadol gryf gan sgorio tri chais ac 19 pwynt yn y deg munud olaf.

Croesodd Barrett am gais unigol da i ddechrau cyn i Kieran Read daro cic Mike Phillips i lawr ar gyfer y pedwerydd.

Coronodd Barrett berfformiad unigol gwych gyda’i ail gais ef a phumed ei dîm yn y munudau olaf wedi i Seland Newydd wneud defnydd da o’r gic letraws eto, 16-34 y sgôr terfynol.

Bydd Cymru’n gorffen gemau’r Hydref yn erbyn De Affrica’r wythnos nesaf.

.
Cymru
Cais:
Rhys Webb 46’
Trosiad: Leigh Halfpenny 47’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 7’, 52, 68’
.
Seland Newydd
Ceisiau:
Julian Savea 43’, Jerome Kaino 64’, Beauden Barrett 70’, 77’, Kieran Read 74’
Trosiadau: Beauden Barrett 44’, 70’, Colin Slade 74’
Cic Gosb: Beauden Barrett 22’