Wrecsam 2–3 Altrincham

Collodd Wrecsam eu pennau ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn gan golli eu gafael ar y tri phwynt i ganlyn.

Roedd y Dreigiau ddwy gôl ar y blaen yn erbyn Altrincham cyn i ddau o’u blaenwyr, Andy Bishop a Louis Moult, dderbyn cardiau coch, ac er bod yr ymwelwyr hwythau i lawr i ddeg dyn fe ddaethant yn ôl i ennill y gêm o dair gôl i ddwy.

Rhoddodd Elliott Durrell Wrecsam ar y blaen o fewn chwarter awr yn dilyn gwaith creu Wes York, cyn i Scott Leather gael ei anfon o’r cae i’r ymwelwyr.

Cyfnuodd Andy Bishop a Louis Molt ar gyfer ail y Dreigiau, Bishop yn creu a Moult yn rhwydo. Ond gwaethygu wnaeth prynhawn y ddau wedi hynny wrth i’r ddau dderbyn cerdyn coch yr un.

Anfonwyd Moult o’r cae yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf a derbynniodd Bishop ail gerdyn melyn yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Naw yn erbyn deg oedd hi am ran helaeth o’r ail hanner felly ac fe fanteisiodd yr ymwelwyr yn y chwarter awr olaf gyda dwy gôl i Damian Reeves ac un i James Lawrie.

Canlyniad hynod siomedig i’r Dreigiau felly ond maent yn aros yn y deuddegfed safle yn nhabl Cyngres Vanarama.

.
Wrecsam
Tîm:
Flett, White, Smith, Tancock, Ashton, Durrell (Jennings 66′), Clarke, Carrington, York (Evans 75′), Moult, Bishop
Goliau: Durrell 14’, Moult 45+1’
Cardiau Melyn: Bishop 41’, 55’, Ashton 45+3’
Cardiau Coch: Moult 45+3’, Bishop 55’
.
Altrincham
Tîm:
Coburn, Densmore, Havern, Leather, Griffin, Richman, Moult (Crowther 66′), Cavanagh, Gillespie (Marshall 38′), Lawrie, Perry (Reeves 46′)
Goliau: Reeves 74’ 79’, Lawrie 83’
Cerdyn Coch: Leather 37’
.
Torf: 3,002