Bury 1–3 Casnewydd
Cipiodd Casnewydd y pwyntiau yn erbyn Bury yn Stadiwm JD brynhawn Sadwrn diolch i hatric Aaron O’Connor.
Sgoriodd y blaenwr ddwywaith yn yr hanner cyntaf, ac er i Bury dynnu un yn ôl wedi’r egwyl, roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel pan gwblhaodd O’Connor ei hatric yn y munud olaf.
Ychydig dros ddau funud oedd ar y cloc pan agorodd O’Connor y sgorio gydag ergyd isel gywir ac felly yr arhosodd pethau tan ddau funud cyn yr egwyl pan rwydodd yr ymosodwr ei ail ef ac ail ei dîm yn dilyn camgymeriad gan y gôl-geidwad cartref, Scott Loach.
Efallai mai O’Connor oedd seren y sioe ond roedd gôl y gêm yn perthyn i chwaraewr Bury, Danny Rose. Tynnodd un yn ôl gydag ergyd o bum llath ar hugain ar yr awr.
Ond doedd dim amheuaeth am y canlyniad wedi i O’Connor gwblhau ei hatric ym munud olaf y naw deg.
Mae’r canlyniad yn codi Casnewydd i’w wythfed safle yn nhabl yr Ail Adran.
.
Bury
Tîm: Loach, White (Thompson 87′), Cameron, McNulty, Hussey, Adams, Soares, Etuhu, Mayor, Rose, Lowe (Nardiello 57′)
Gôl: Rose 61’
.
Casnewydd
Tîm: Day, Obeng (Jackson 76′), Yakubu, Jones, Hughes, Sandell, Minshull (Byrne 71′), Porter, Klukowski, O’Connor, Zebroski
Goliau: O’Connor 3’, 43’, 90’
Cardiau Melyn: Zebroski 78’, Jones
.
Torf: 3,116