Man City 2–1 Abertawe
Doedd gôl gynnar Wilfred Bony ddim yn ddigon i Abertawe wrth i’r Elyrch ymweld â’r Etihad i wynebu Man City brynhawn Sadwrn.
Er i’r blaenwr o’r Traeth Ifori roi’r Cymry ar y blaen, ei gydwladwr, Yaya Touré, a gafodd y gair olaf wrth iddo ennill y gêm i’r tîm cartref toc wedi’r awr ar ôl i Stevan Jovetic unioni pethau yn yr hanner cyntaf.
Llai na deg munud oedd ar y cloc pan reolodd Bony bas dreiddgar Nathan Dyer cyn canfod cefn y rhwyd i roi’r ymwelwyr o Gymru ar y blaen.
Roedd y pencampwyr yn ôl yn gyfartal serch hynny hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan wyrodd Jovetic groesiad Jesús Navas i’r gôl.
Felly yr arhosodd pethau tan hanner amser ond roedd Man City ar y blaen wedi ychydig dros awr o chwarae, Touré’n sgorio wedi sodliad slic Fernandinho i’w lwybr.
Cafodd Bafétimbi Gomis gyfle da i achub pwynt i’r Elyrch wedi hynny ar ôl cyfuno’n dda gyda Bony, ond ergydiodd ym mhell heibio’r postyn wrth i Man City ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Mae Abertawe yn llithro i’r seithfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair yn dilyn y canlyniad.
.
Man City
Tîm: Hart, Zabaleta, Kompany, Demichelis, Clichy, Jesús Navas, Fernandinho (Fernando 88′), Y Touré, Nasri (Milner 79′), Jovetic (Lampard 70′), Agüero
Goliau: Jovetic 19’, Touré 62’
Cardiau Melyn: Kompany 31’, Demichelis 90’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Bartley, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng, Carroll (Shelvey 67′), Dyer (Barrow 77′), Sigurdsson (Gomis 79′), Montero, Bony
Gôl: Bony 9’
Cerdyn Melyn: Bartley 24’
.
Torf: 45,448