Owen Williams
Bydd chwaraewyr Cymru’n cael “eu hysbrydoli” brynhawn yma gan bresenoldeb canolwr addawol y Gleision a gafodd ei anafu’n ddifrifol dros yr haf.
Dyna medd hyfforddwr blaenwyr Cymru Robin McBryde, wrth i Gymru baratoi i gwrdd â thim gorau’r byd, Seland Newydd, yn Stadiwm y Mileniwm, gydag Owen Williams a’i deulu yn y dorf.
Cafodd y canolwr 23 oed anaf difrifol i asgwrn ei gefn tra roedd yn chwarae dros y Gleision mewn twrnameint yn Singapore ym mis Mehefin, ac mae’n parhau i gael triniaeth yn ysbyty Rookwood yn Llandâf.
“Pan siaradwch chi ag Owen, mae’n ysbrydoledig pa mor bositif mae o,” meddai Robin McBryde.
“Mae’n gobeithio am y gorau ac yn bwrw ati gyda’r physios ac mae hynna yn ei hun yn ysbrydoli.
“Mae’n braf i’w weld o a gobeithio gallwn ni roi achos iddo ddathlu Ddydd Sadwrn.”
Mae carfan Cymru wedi bod yn gwisgo bandiau garddwrn #StayStrongForOws wythnos yma fel arwydd o gefnogaeth i Owen Williams.
Dangos fideo gwrth-fwlio cyn y gêm
Fel rhan o wythnos o ymgyrchu yn erbyn bwlio mae rhai o chwaraewyr Cymru wedi arwyddo addewid “Peidiwn eistedd nôl a gwylio” wrth i Undeb Rygbi Cymru geisio rhoi stop ar gefnogwyr yn gweiddi sylwadau sarhaus.
Daw’r ymgyrch yn fuan ar ôl honiadau gael eu gwneud bod rhai o gefnogwyr Lloegr wedi bod yn gweiddi sylwadau homoffobig a gwrth-Gymreig yn erbyn Nigel Owens tra roedd yn dyfarnu’r gêm yn erbyn Seland Newydd yn Twickenham.
Bydd fideo gan elusen Stonewall Cymru yn cael ei dangos ar sgrîn fawr y stadiwm brynhawn yma er mwyn dangos effaith sylwadau negyddol ar bobol ifanc.
“Rydym ni’n falch o werthoedd traddodiadol rygbi – y gwmnïaeth rhwng chwaraewyr a chefnogwyr a’r parch at chwaraewyr, cefnogwyr a swyddogion y gêm” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio’n galed i gynnal y gwerthoedd hyn am eu bod nhw’n nodweddu ein gêm genedlaethol ni,” meddai.