Caerdydd 2–1 Reading
Chwaraeodd tri chwaraewr rhyngwladol Cymru yn y gêm hon rhwng Caerdydd a Reading yn Stadiwm y Ddinas nos Wener, ond colli oedd hanes y tri.
Camodd Chris Gunter, Hal Robson-Kanu a Jake Taylor i’r cae i’r ymwelwyr ond tîm y brifddinas aeth â hi diolch i ddwy gôl hanner cyntaf.
Ugain munud oedd ar y cloc pan wyrodd amddiffynnwr Reading, Alex Taylor, y bêl i’w rwyd ei hun i roi Caerdydd ar y blaen.
Felly yr arhosodd pethau tan yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd yr hanner cyntaf pan lwyddodd Pearce i lorio Adam Le Fondre yn y cwrt cosbi. Daeth noson drychinebus Pearce i ben yn gynnar gyda cherdyn coch a dyblodd Peter Wittingham fantais yr Adar Gleision o’r smotyn.
Llwyddodd deg dyn yr ymwelwyr i reoli dipyn o’r meddiant yn yr ail hanner ac roeddynt yn haeddu tynnu un yn ôl pan groesodd y Cymro ifanc, Taylor, i Michael Hector ddeg munud o’r diwedd.
Daliodd Caerdydd eu gafael ar y tri phwynt serch hynny ac maent bellach yn yr unfed safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Connolly (Fabio 76′), Morrison, Turner, Brayford, Pilkington, Gunnarsson, Whittingham, Noone (Daehli 69′), Le Fondre, Macheda (Jones -90′)
Goliau: Pearce [g.e.h.] 20’, Wittingham 45+4’
Cerdyn Melyn: Pilkington 41’
.
Reading
Tîm: Federici, Kelly, Hector, Pearce, Gunter, Robson-Kanu (Blackman 84′), Norwood, Williams (Taylor 72′), Obita, Murray, Cox (McCleary 45′)
Gôl: Hector 81’
Cardiau Melyn: Williams 41’, Blackman 90’
Cerdyn Coch: Pearce 45+3’
.
Torf: 20,643