Dreigiau Casnewydd Gwent 12–38 Munster

Roedd y Gwyddelod rhy gryf i’r Dreigiau ar Rodney Parade nos Wener wrth i Munster ennill y gêm Guinness Pro12 yn gyfforddus yn y diwedd.

Stori wahanol oedd hi ar yr egwyl wrth i’r tîm cartref fynd i mewn ar yr egwyl gyda mantais fain, ond croesodd Munster am lu o geisiau yn yr ail ddeugain i ennill y gêm yn gyfforddus.

Ciciodd Geraint Rhys Jones y Dreigiau ar y blaen cyn i gyn chwaraewr y Gleision, Robin Copeland, groesi am gais cyntaf yr ymwelwyr.

Y Dreigiau serch hynny oedd ar y blaen ar hanner amser yn dilyn dwy gic gosb arall gan Jones, 9-7 y sgôr wedi deugain munud.

Ond roedd yr ail hanner yn dipyn mwy unochrog wrth i Duncan Casey (2), Andrew Smith a Ronan O’Mahony groesi am bedwar cais arall wrth i Munster sicrhau buddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws.

Parhau mae tymor siomedig y Dreigiau felly wrth iddynt aros yn ddegfed yn nhabl y Pro12.

.
Dreigiau
Ciciau Cosb:
Geraint Rhys Jones 5’, 19’, 32’, 65’
.
Munster
Ceisiau:
Robin Copeland 14’, Duncan Casey 46’, 72’, Andrew Smith 62’, Ronan O’Mahony 78’
Trosiadau: Ian Keatley 15’, 47’, 62’, 73’, 79’’
Cic Gosb: Ian Keatley 43’