Ulster 25–16 Gweilch
Colli fu hanes y Gweilch am y tro cyntaf y tymor hwn yn y Guinness Pro12 er iddynt daro nôl yn dda yn erbyn Ulster yn Stadiwm Kingspan nos Wener.
Roedd gan y Gwyddelod fantais gyfforddus ar yr egwyl ac er i’r ymwelwyr o Gymru gau’r bwlch i ddau bwynt, bu rhaid iddynt ddychwelyd adref heb hyd yn oed bwynt bonws yn dilyn cais hwyr i Ulster.
Darren Cave sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm, plymiodd y canolwr trwy bentwr o gyrff i ganfod y gwyngalch wedi naw munud.
Trosodd Paddy Jackson y cais hwnnw cyn ychwanegu dwy gic gosb hefyd i ymestyn mantais y Gwyddelod i dri phwynt ar ddeg.
Tri phwynt o droed Sam Davies oedd unig ymateb y Gweilch cyn yr egwyl ac roeddynt ym mhellach ar ei hôl hi wedi cais y blaenasgellwr cartref, Franco van der Merwe, yn dilyn sgarmes symudol gref, 18-3 y sgôr ar yr hanner.
Roedd y Gweilch yn well ar ddechrau’r ail hanner ac roeddynt yn ôl yn y gêm yn dilyn cais cynnar y mewnwr, Martin Roberts, a throsiad Davies.
Ychwanegodd Davies ddwy gic gosb toc o boptu’r awr ac roedd y Gweilch o fewn dau bwynt i’r Gwyddelod.
Roedd yr ymwelwyr o fewn trwch blewyn i gynnal eu record ddi guro felly ond bu rhaid iddynt orffen y gêm heb hyd yn oed bwynt bonws wedi i Cave groesi am ei ail gais ef a thrydydd ei dîm ym munudau olaf y gêm.
Mae’r Gweilch yn parhau ar frig tabl y Pro12 er gwaethaf y canlyniad, ond dim ond gwahaniaeth pwyntiau’n unig sydd yn eu gwahanu hwy ac Ulster yn yr ail safle bellach.
.
Ulster
Ceisiau: Darren Cave 9’, 78’, Franco van der Merwe 39’
Trosiadau: Paddy Jackson 11’, Ian Humphreys 78’
Ciciau Cosb: Paddy Jackson 19’, 31’
.
Gweilch
Cais: Martin Roberts 43’
Trosiad: Sam Davies 44’
Ciciau Cosb: Sam Davies 32’, 59’, 61’