Scarlets 19–9 Glasgow

Sicrhaodd gais hwyr Rory Pitman fuddugoliaeth i Fois y Sosban yn y Guinness Pro12 nos Wener wrth i Glasgow ymweld â Pharc y Scarlets.

Y tîm cartref oedd y tîm gorau am ran helaeth o’r gêm ond wedi gwastraffu llu o gyfleoedd bu rhaid iddynt aros am gais hwyr yr eilydd wythwr sicrhau’r canlyniad.

Hanner Cyntaf

Ciciodd Steve Shingler y tîm cartref ar y blaen yn dilyn sgrym dda wedi dim ond pum munud cyn i Peter Horne unioni pethau ddau funud yn ddiweddarach.

Ychwanegodd Shingler ei ail gic gosb yn fuan wedyn i roi Bois y Sosban ar y blaen eto wedi chwarter awr o chwarae.
Trosodd y canolwr cartref dri phwynt arall cyn yr egwyl, 9-3 y sgôr wedi deugain munud.

Ail Hanner

Glasgow a Horne sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner wrth i goc gosb y maswr gau’r bwlch i dri phwynt.

Doedd dim dwywaith serch hynny mai’r Scarlets oedd yn edrych fwyaf tebygol o groesi am gais a gwastraffodd Harry Robinson gyfle da i wneud hynny yn y gornel dde yn dilyn gwaith da Steffan Evans.

Cyfnewidiodd Horne a Shingler gic gosb yr un wedi hynny cyn i Shingler ddod o fewn trwch blewyn i sgorio cais. Cafodd ei atal yn y gornel chwith gan dacl dda, ond mater o amser oedd hi.

Yr eilydd wythwr, Rory Pitman, gafodd hwnnw yn y diwedd, yn tirio o dan y pyst yn dilyn cyfnod hir o bwyso.

Ychwannegodd Shingler ddau bwynt arall i sicrhau buddugoliaeth, 19-9. Mae’r canlyniad yn codi’r Cymry i’r chweched safle yn nhabl y Pro12.

.
Scarlets
Cais:
Rory Pitman 77’
Trosiad: Steve Shingler 78’
Ciciau Cosb: Steve Shingler 5’, 13’, 25’, 64’
.
Glasgow
Ciciau Cosb: Peter Horne 7’, 44’, 61’