Hugh Morris
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo’r batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram.

Daw Ingram i Forgannwg fel chwaraewr Kolpak ar gytundeb o dair blynedd, yn ddibynnol ar ganiatâd Bwrdd Criced De Affrica a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Mae Ingram, sy’n fatiwr llaw chwith, wedi cynrychioli De Affrica mewn 31 un o gemau undydd.

Mewn gemau undydd 50 pelawd domestig yn ei famwlad, mae ganddo gyfartaledd fatio o dros 40 ac mae’n gapten ar dîm y Warriors.

Sgoriodd Ingram ganred yn ei gêm undydd gyntaf ac fe darodd 75 yn erbyn India’r Gorllewin yn Nhlws Pencampwyr yr ICC yn Stadiwm Swalec yn 2013.

Fe dreuliodd fis o’r tymor diwethaf yn chwarae i Wlad yr Haf.

Mewn datganiad, dywedodd Colin Ingram: “Rwy wrth fy modd o gael ymuno â Morgannwg.

“Fe ges i fy mlas cyntaf o griced y siroedd gyda Gwlad yr Haf fis Gorffennaf diwethaf ac fe wnes i fwynhau.

“Dwi wedi siarad â Jacques Rudolph am y clwb a dw i’n edrych ymlaen at yr her ac i chwarae gyda fy nghyd-chwaraewyr newydd.”

Meithrin doniau’r Cymry

Bydd y newyddion bod Morgannwg wedi arwyddo chwaraewr o’r tu allan i Gymru, yn groes i’w polisi o ddatblygu gyrfaoedd chwaraewyr ifainc Cymreig yn syndod i rai, yn enwedig yn dilyn ymadawiad Jim Allenby, sy’n hanu o Awstralia.

Eglurodd Hugh Morris mewn datgainad: “Ein strategaeth yw datblygu tîm ag iddo hunaniaeth Gymreig gryf, ond rydyn ni wedi dweud erioed fod angen pileri o chwaraewyr profiadol mewn safleoedd allweddol i gefnogi ein chwaraewyr cartref drwy recriwtio o’r tu allan i’n ffiniau.”