Mae undebau iechyd wedi derbyn cynnig cyflog gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithwyr y gwasanaeth iechyd, y cytundeb cyntaf o’i fath ar gyfer y wlad.
Cafodd cyfarfod ei gynnal yn Wrecsam heddiw i drafod y cytundeb dwy flynedd, sy’n cynnwys codiad cyflog o 1% i weithwyr y GIG o fis Ebrill nesaf.
Bydd yn effeithio ar tua 80,000 o weithwyr iechyd, ac eithrio meddygon a deintyddion.
Ar ôl ystyried y ceisiadau gan undebau, fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi heddiw y byddai’r cytundeb hefyd yn cynnwys taliad o £187, polisi i gyflwyno cyflog byw i’r gweithwyr ar y cyflogau isaf o fis Ionawr, bwriad i sefydlu comisiwn i ddelio a chwynion yn ogystal â’r codiad cyflog o 1%.
Blaenoriaeth
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn falch bod Cymru wedi osgoi gweithredu diwydiannol dros y mater, fel sydd wedi digwydd yn Lloegr:
“Mae’r cynnig cyflog dwy flynedd yma, sy’n arbennig ar gyfer Cymru, yn arddangos ein hymrwymiad i staff y GIG yn y cyfnod ariannol heriol yma.
“Ein blaenoriaeth yw cynnal swyddi er bod toriadau llym yn cael eu gweithredu.
“Rwy’n falch ein bod wedi medru osgoi streicio trwy ddod i gytundeb ac mae diolch i bawb wnaeth wneud hynny’n bosib.”
‘Symbylu staff’
Wrth ymateb i’r cytundeb ar gyflogau, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones:
“Rydym yn croesawu’r cytundeb rhwng yr Undebau a Llywodraeth Cymru. Cafodd staff y GIG fargen wael dros y blynyddoedd a aeth heibio, ac roedd hi’n briodol ymdrin â hyn.
“Fel plaid, rydym wedi dweud yn glir mai’r unig ffordd i wella GIG Cymru yw trwy symbylu’r staff a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, a dyna pam y gelwais ar Lywodraeth Cymru i ddod i gytundeb gyda gweithwyr y GIG cyn gynted ag sydd modd.”