David Cameron
Mae David Cameron yn mynnu y bydd rhagor o bwerau yn cael eu cyflwyno i’r Alban er gwaetha’r datblygiadau gyda’r cynllun dadleuol i gael ASau Lloegr i bleidleisio tros gyfreithiau sy’n effeithio Lloegr yn unig.

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn “hyderus iawn” fod yr addewid i ddatganoli rhagor o bwerau, gafodd ei roi yn nyddiau diwethaf ymgyrch y refferendwm, yn mynd yn ei flaen.

Ond fe ddywedodd wrth y Pwyllgor Cyswllt y byddai pleidleiswyr yn cael y ddau ddiwygiad cyfansoddiadol os bydd yn dychwelyd fel Prif Weinidog y flwyddyn nesaf.

Wrth ateb cwestiwn ynglŷn ag os yw’r addewid am bwerau ychwanegol i’r Alban yn dal i sefyll, dywedodd:

“I bob pwrpas, ydy. Fe gafodd yr addewid ei wneud gan arweinwyr San Steffan a dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod yn ei gyflawni yn llawn.

“Dw i’n hyderus o hynny, y dylai bod pwerau trethi a gwario yn cael eu rhoi i’r Alban.”

Arafu’r broses

Mewn ymdrech i geisio annog yr Alban i aros yn rhan o’r DU, fe wnaeth David Cameron, Nick Clegg ac Ed Miliband addo trosglwyddo pwerau ychwanegol i Holyrood os fyddai’r wlad yn pleidleisio yn erbyn annibyniaeth.

Ond yn syth ar ôl y cyhoeddiad fod y wlad am aros yn rhan o’r DU, cyhoeddodd David Cameron bod angen diwygio pwerau San Steffan fel mai dim ond ASau yn Lloegr fyddai’n pleidleisio tros faterion Lloegr – fyddai’n arafu’r broses o ddatganoli i’r Alban.