Mae dwy elusen sy’n cynnig cymorth i bobol sy’n wynebu cyfnodau anodd yn eu bywydau yn bwriadu uno i greu un gwasanaeth ar gyfer Cymru gyfan.
Bydd CAIS, sydd wedi’i leoli yn Llandudno, ac Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru (CJIW) yn uno i helpu pobol ym meysydd camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol, cymorth cyflogaeth ac iechyd meddwl.
Mae disgwyl iddyn nhw uno ar Ebrill 1 y flwyddyn nesaf mewn ymgais i roi gobaith o’r newydd i bobol sy’n ceisio ailgydio yn eu bywydau.
Ar hyn o bryd, mae CAIS yn cynnig cymorth i bobol sydd â thrafferthion caethiwed, iechyd meddwl, datblygiad personol a chyflogaeth.
Mae eu gwasanaethau’n cynnwys triniaeth breswyl ac adsefydlu, cwnsela, mentora cyfoedion, cefnogi pobol yn eu cartrefi, helpu pobol i ddychwelyd i’r gwaith a nifer o wasanaethau eraill.
Prif rôl Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru yw hyrwyddo addysg a gostwng troseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Maen nhw’n cynnig cyfleusterau hamdden, cyngor, arweiniad, cymwysterau achrededig ac addysg i bobol sydd o dan anfantais gymdeithasol.
‘Partneriaeth’
Dywedodd Cadeirydd Ymyriadau Cyfiawnder Cymunedol Cymru, Dr Dai Roberts: “Mae Ymddiriedolwyr CJIW yn credu mai drwy integreiddio ein gwasanaethau mewn partneriaeth y byddwn yn gallu cyflawni ein nodau orau.
“Byddwn yn gallu dod â gwasanaethau ategol at ei gilydd, sy’n rhoi sylw i anghenion cyfnewidiol pobl agored i niwed yng Nghymru.”
Dywedodd Prif Weithredwr y mudiad newydd, Clive Wolfendale: “Rydyn ni’n falch o ymuno â CJIW o dan y cytundeb uno hwn.
“Bydd y mudiad cyfunol hwn yn arwain at ehangu’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn gyffredinol.
“Ein nod yw adlewyrchu cyd-destun newidiol darparu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru a gosod safonau newydd ar gyfer ansawdd ac effeithlonrwydd ar y cyd.”