Bydd Cyngor Conwy yn cwrdd heddiw i drafod yr opsiynau ar gyfer safle parhaol i deithwyr a sipsiwn yn yr ardal.
Ond mae nifer o fusnesau lleol wedi bod yn mynegi eu pryderon a’u dicter yr wythnos hon y gallai’r cynlluniau achosi trafferthion diogelwch a sbwriel.
Y bwriad ar hyn o bryd yw lleoli’r safle ar ystâd ddiwydiannol ger y dref, ac mae disgwyl i’r safle hwn gael sêl bendith y Cyngor heddiw.
Ond fe fydd nifer o safleoedd eraill hefyd yn cael eu hystyried gan y Cyngor.
Mae dyletswydd ar y Cyngor i sefydlu safle, ond fe ddaeth yn fater brys wedi i deithwyr a sipsiwn ymsefydlu’n anghyfreithlon ar sawl safle answyddogol ar draws yr ardal.