Mae’r Unol Daleithiau yn paratoi am ragor o dywydd garw heddiw, yn dilyn marwolaeth saith o bobol mewn stormydd eira yn Buffalo, talaith Efrog Newydd ddoe.

Roedd marwolaethau hefyd yn nhaleithiau New Hampshire a Michigan.

Mae’r stormydd wedi achosi cryn oedi i drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Efrog Newydd a rhannau eraill o’r Unol Daleithiau, gydag adroddiadau bod nifer o bobol yn gorfod aros yn eu ceir am fwy na diwrnod wrth i’r tywydd waethygu.

Mae nifer o ysgolion hefyd ar gau yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r gwaith o glirio’r ffyrdd a cheir sydd wedi cael eu gadael ar ochr y ffyrdd eisoes wedi dechrau.

Ar ei waethaf, mae’r eira’n fwy na chwe throedfedd o uchder.

Bu farw hyd at 20 o bobol yn sgil y tywydd ers dydd Sadwrn, a chafodd diffoddwyr tân eu hanafu yn Indiana wedi i drelar daro yn erbyn tryc tân.