Mae Banc Brenhinol yr Alban (RBS) wedi cael dirwy o £56 miliwn ar ôl problemau technolegol yn 2012 a oedd yn golygu bod miliynau o gwsmeriaid yn methu defnyddio eu cyfrifon.

Mae’r grŵp, sy’n cynnwys NatWest a Ulster Bank, eisoes wedi talu £70 miliwn o gwsmeriaid yn y DU o ganlyniad i’r problemau. Roedd y banc wedi rhoi’r bai ar “wendidau annerbyniol” yn ei systemau.

Mae’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), sydd wedi rhoi dirwy o £42 miliwn i RBS, yn dweud bod y methiannau technegol wedi effeithio 6.5 miliwn o gwsmeriaid. Mae Awdurdod Rheoleiddio Prudential Banc Lloegr wedi cyflwyno dirwy ar wahân o £14 miliwn.

Roedd y problemau wedi golygu bod rhai cwsmeriaid wedi methu defnyddio’r gwasanaeth bancio ar-lein, rhai wedi methu talu eu taliadau morgais mewn pryd ac eraill heb arian parod mewn gwledydd tramor.