Mae UKIP yn gobeithio sicrhau eu hail Aelod Seneddol heddiw wrth i Mark Reckless frwydro am sedd yn isetholiad Rochester a Strood.

Cafodd yr isetholiad ei drefnu wedi i Reckless benderfynu symud i’r blaid o’r Ceidwadwyr.

Byddai buddugoliaeth bellach i UKIP yn ergyd drom i David Cameron, yn dilyn ethol Douglas Carswell yn Aelod Seneddol dros Clacton.

Dywed y Ceidwadwyr eu bod nhw’n hyderus o gadw’r sedd yn Rochester a Strood.

Roedd Aelodau Seneddol blaenllaw’r Ceidwadwyr, yn ogystal â’r Prif Weinidog David Cameron wedi bod ar sawl ymweliad â’r etholaeth cyn yr isetholiad.

Ond mae polau piniwn yn awgrymu mai UKIP fydd yn fuddugol, er eu bod nhw hefyd yn awgrymu bod nifer fawr o bobol sy’n bwriadu pleidleisio dros UKIP heddiw yn bwriadu pleidleisio dros y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.

Ceisiodd gwrthwynebwyr Mark Reckless ei feirniadu yn ystod hystings ar y teledu neithiwr, gan ddweud ei fod wedi dod yn agos iawn at roi sêl bendith i symud mewnfudwyr allan o Brydain ac o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd Reckless ei amddiffyn gan arweinydd ei blaid, Nigel Farage, a ddywedodd y byddai hawl gan fewnfudwyr i wledydd Prydain aros pe baen nhw wedi cyrraedd yn gyfreithlon.