Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gryfhau brand twristiaeth Cymru a buddsoddi mwy o arian ynddo, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Yn ei ymchwiliad i faes twristiaeth, clywodd aelodau Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod twristiaeth ar gynnydd yng Nghymru, gyda thwf yn nifer yr ymweliadau gan dwristiaid o gartref a thwristiaid rhyngwladol.
Fodd bynnag, dywedodd busnesau twristiaeth o Gaerdydd, Sir Benfro a Gwynedd wrth y pwyllgor fod angen brand twristiaeth cryfach ar Gymru i wneud y gorau o’r potensial sydd ganddi o ran twristiaeth.
Cymru’n gwario’r un faint a Glasgow
Daeth i’r amlwg bod gwariant ar dwristiaeth yng Nghymru tua’r un faint â’r gwariant yn ninas Glasgow yn yr Alban – er bod elw yn aml yn cael ei wneud ar yr arian sy’n cael ei fuddsoddi mewn prosiectau marchnata ym maes twristiaeth.
O ganlyniad, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailasesu a yw’n gwario digon o arian ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth.
“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i fanteisio ar y potensial enfawr sydd gan Gymru o ran twristiaeth,” meddai William Graham AC, Cadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes.
“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau brand twristiaeth Cymru ac ystyried a yw’n gwario digon o arian ar dwristiaeth, ac a yw ei dargedau o ran twf yn ddigon uchel, o ystyried y potensial sylweddol ar gyfer twf yn y diwydiant hwn.”
VisitBritain
Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu nad yw VisitBritain (asiantaeth datblygu twristiaeth Llywodraeth Prydain) yn gwneud digon i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan penodol.
Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyd-weithio gyda VisitBritain i bennu targedau heriol o ran twf i wella twristiaeth yng Nghymru.