Atomfa Trawsfynydd
Mae trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng sefydliad peirianneg ac Aelodau Cynulliad i drafod y posibilrwydd o adeiladu atomfa arbrofol newydd yn Nhrawsfynydd.

Yn ddiweddar fe gyhoeddodd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ddogfen bolisi yn awgrymu y dylid defnyddio safle Trawsfynydd i arbrofi â datblygu math newydd o bwerdy niwclear llai ei maint.

Ac mae’r grŵp wedi cadarnhau wrth Golwg eu bod eisoes wedi siarad ag Aelodau Cynulliad sydd yn gefnogol i’r syniad.

Technoleg newydd

Yn eu dogfen bolisi, mae Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol yn awgrymu bod potensial i Brydain ddatblygu adweithyddion niwclear gwahanol i’r hyn sydd yma ar hyn o bryd.

Byddai Adweithyddion Modwlar Bychan yn fath llai o orsaf niwclear, sydd yn cynhyrchu llai o drydan ond ddim yn gorfod dibynnu ar isadeiledd niwclear mor hirsefydlog.

Petai nhw’n llwyddo i ddatblygu’r dechnoleg, byddai modd iddynt wedyn ei werthu i rannau eraill o’r byd.

Ond fe ddywedodd y cynghorydd Meredydd Williams o Gellilydan nad oedd am weld pobl Cymru’n bod yn “guinea pigs i’r diwydiant niwclear” drwy groesawu’r datblygiad arbrofol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fe alwodd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol ar i lywodraethau Cymru a Phrydain gydweithio i geisio datblygu’r prosiect.

Mewn ymateb wrth golwg360 dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru nad oedd y mater yn ymwneud â nhw.

Ond fe wrthododd gadarnhau a oedd swyddogion o Lywodraeth Cymru wedi cyfarfod â’r Sefydliad i drafod y cynlluniau.

“Mae hyn yn fater i Lywodraeth y DU. Mae swyddogion a Llywodraeth Cymru a Bwrdd Menter Eryri yn parhau i fonitro’r sefyllfa,” meddai’r llefarydd.

Gallwch ddarllen y manylion llawn am y cynllun, ac ymateb Meredydd Williams, yn Golwg yr wythnos hon.