Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cyhoeddi chwe phrosiect newydd sy’n anelu at greu mwy na 1,100 o swyddi yng Nghymru.

Daw’r cyhoeddiad ar drothwy Cynhadledd Fuddsoddi DU Cymru 2014 yng Nghasnewydd yfory, a fydd yn ceisio denu buddsoddwyr tramor.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, fe fydd cwmniau Deloitte, Griffin Place Communications, Raytheon, Smartpipe Solutions, SPTS Technologies ac Essentra yn creu swyddi newydd “o’r radd flaenaf” ledled y wlad.

‘Mwy o fuddsoddi nag erioed’

Wrth siarad cyn y gynhadledd ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae mwy o fewnfuddsoddi i Gymru nag erioed. Mae’r chwe phrosiect yma yn creu nifer fawr o swyddi newydd, ansawdd uchel yng Nghymru.

“Does dim byd na allwn ei wneud yng Nghymru a dyna fydd fy neges i fuddsoddwyr tramor fory. Mae cyhoeddiadau heddiw yn rhan o lif cyson o fuddsoddwyr sy’n parhau i ddewis Cymru.”

Fe fydd y Prif Weinidog yn ymweld â safle SPTS yng Nghasnewydd heddiw sydd ar hyn o bryd yn cyflogi 263 o bobol.

Dewis cynta

“Cymru yw’r dewis cyntaf ar gyfer mwy a mwy o gwmnïau,” meddai Carwyn Jones. “Rydym yn gweithredu mewn marchnad ryngwladol ac mae cystadleuaeth ryngwladol am y prosiectau hyn.

Gallai’r cwmnïau fod wedi mynd unrhyw le yn y byd ac mae’n wych gweld pob un yn dewis Cymru.

“Ar drothwy Cynhadledd Fuddsoddi DU Cymru 2014, ni allwn fod wedi dymuno hysbyseb well ar gyfer sgiliau a llwyddiant Cymru wrth inni hyrwyddo Cymru fel y dewis cyntaf i fuddsoddwyr.”

Angen gwneud mwy

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu’r cyhoeddiad ond yn dweud bod angen i’r Llywodraeth wneud mwy i sicrhau swyddi sgiliau uchel.

“Rydym yn falch o unrhyw swyddi newydd neu fuddsoddiad yn economi Cymru sydd am sicrhau twf a chyfrannu at Gymru fwy ffyniannus,” meddai llefarydd busnes y Ceidwadwyr yng Nghymru, William Graham.

“Ond mae’n rhaid i weinidogion ddechrau defnyddio’r adnoddau sydd ar gael iddyn nhw i greu’r amgylchiadau gorau ar gyfer cynnal swyddi sgiliau uchel a chefnogi buddsoddwyr hir dymor.”

‘Uchelgeisiol’

Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, bod y swyddi newydd yma yn brawf o lwyddiant Llywodraeth Prydain:

“Mae gan y Glymblaid gynllun economaidd hir dymor ar gyfer cefnogi busnesau Cymru a chreu’r amgylchiadau gorau ar gyfer twf.

“Rydym wedi lleihau’r diffyg ariannol, wedi torri Treth Gorfforaethol ac wedi gwneud ein heconomi yn fwy cystadleuol ac atyniadol.

“Bydd y gynhadledd yr wythnos yma yn gyrru neges i’r byd ein bod ni’n genedl uchelgeisiol sy’n agored i fusnes.

Y Prosiectau
• Deloitte – cwmni cynghori busnes rhyngwladol sydd ar fin creu hyd at 700 o swyddi wrth iddo baratoi i arallgyfeirio ac ehangu ei waith yn y Ganolfan Ragoriaeth yn Ardal Fenter Canol Caerdydd;
• Griffin Place Communications (GPC) o Lundain – cwmni newydd sy’n trefnu gwasanaethau canolfan cyswllt gan arbenigo mewn gofalu am gwsmeriaid a blaengaredd. Bydd yn creu rhagor na 300 o swyddi yn y 12 mis nesaf yng Nghwmbrân;
• Raytheon – yn ail-fuddsoddi ac yn ehangu ei ffatri Awyrennau Special Mission ym Mrychdyn yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, i’w gwneud yn bencadlys adran Atebion Hedfan y cwmni, fydd yn creu 50 o swyddi crefftus;
• Smartpipe Solutions o Lundain – yn buddsoddi dros £10m gyda chymorth Llywodraeth Cymru i sefydlu canolfan datblygu ac ymchwil meddalwedd yng Nghwmbrân i greu 44 o swyddi peirianneg TG crefftus;
• SPTS Technologies – cwmni angori Cymreig o dan ofal Orbotech (NASDAQ: ORBK) fydd yn talu am brosiect ymchwil tair blynedd i ddatblygu technegau blaengar ar gyfer prosesu wafferi yn y maes pecynnu. Bydd y prosiect yn creu 30 o swyddi ymchwil a datblygu amser llawn yng Nghasnewydd;
• Essentra – cwmni pecynnu rhyngwladol, un o’r FTSE 250. Bydd yn agor ffatri cynhyrchu deunydd pecynnu 52,000 troedfedd sgwâr bwrpasol yn Imperial Park yng Nghasnewydd yfory i greu mwy na 20 o swyddi newydd.