Y Fonesig Rosemary Butler
Fe fydd Llywydd y Cynulliad yn lansio “sgwrs genedlaethol” heddiw gan ofyn a ddylai’r oedran pleidleisio gael ei ostwng.
Mae’r Fonesig Rosemary Butler eisiau newid yr oedran pleidleisio o 18 i 16 oed gan fod y system bresennol yn “anghyson,” meddai.
Mae hi’n 25 mlynedd i’r diwrnod ers cyflwyno Siarter Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac fe fydd hi’n bosib i blant a phobol ifanc rhwng 11 a 25 oed roi eu barn.
Bydd timau addysg ac allgymorth y Cynulliad yn mynd i gyfarfodydd grwpiau ieuenctid ac yn creu pecynnau gwybodaeth fel y gall pobol ifanc gynnal eu trafodaethau eu hunain.
‘Anghyson’
“Gall pobol ifanc yng Nghymru wasanaethu yn y lluoedd arfog, talu trethi a phriodi pan fyddan nhw’n 16 oed, felly pam na allan nhw bleidleisio?,” gofynnodd Rosemary Butler.
“Mae’n anghyson, yn fy marn i, bod modd gofyn i bobl ifanc 16 oed i gyfrannu at gyfoeth eu gwlad er nad oes ganddyn nhw ffordd o ddweud eu dweud am sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.
“Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y byddai’n deddfu i alluogi pobl ifanc 16 oed yng Nghymru i bleidleisio mewn refferendwm yn y dyfodol ynghylch datganoli pwerau i amrywio trethi i Gymru.
“Onid yw’n gwneud synnwyr, felly, y dylen nhw allu pleidleisio ym mhob etholiad?”
Sut i gymryd rhan
I fod yn rhan o’r sgwrs ynghylch Pleidleisio@16, mae hi’n bosib cymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar wefan Dy Gynulliad Di ar www.dygynulliad.org.
Fe fydd gwybodaeth ar gael drwy ffrydiau Twitter y Cynulliad hefyd, @DyGynulliad a @CynulliadCymru.
Fe fydd Dy Gynulliad Di yn cael ei diweddaru’n gyson i roi gwybod i bobl ifanc sut y mae’r sgwrs yn datblygu. Fe fydd y Cynulliad hefyd yn rhoi’r holl wybodaeth berthnasol ar ei wefan, gan gynnwys adnoddau a thrafodaethau a gynhelir gan sefydliadau eraill sydd â diddordeb yn y mater hwn.
Ar ôl casglu’r dystiolaeth a’r data at ei gilydd, bydd y Cynulliad yn cynnal diwrnod ieuenctid ym mis Gorffennaf i drafod y canlyniadau a beth a ddylai ddigwydd nesaf.