Hunangofiant John Davies, Fy Hanes I (Llun: Y Lolfa
Mae’r Athro John Davies yn hen gyfarwydd ag adrodd hanesion rhai o gymeriadau a chyfnodau mwyaf arwyddocaol Cymru.
Does dim syndod felly fod yr hanesydd adnabyddus, o’r diwedd, wedi mynd ati i ysgrifennu hunangofiant am ei fywyd ef ei hun – o’r enw Fy Hanes I, wrth gwrs.
Yn ôl ei ffrind Jon Gower, “nid hanesydd mo John, ond trysor cenedlaethol”, a go brin y byddai llawer o bobl yn anghytuno â’r disgrifiad hwnnw o’r academydd sydd hefyd yn gyfarwydd fel John ‘Bwlch-llan’.
Yn ogystal â thrafod cyfnodau cynt yn ei fywyd, gan gynnwys yr 18 mlynedd a dreuliodd fel warden Neuadd Pantycelyn, mae John Davies yn rhoi ei farn ar bynciau llosg heddiw fel refferendwm yr Alban a phriodasau hoyw.
Hanes yr hanesydd
Yn yr hunangofiant mae John Davies yn adrodd y straeon y tu ôl i’w gyfraniad sylweddol tuag at hanes a diwylliant Cymru.
O Fwlch-llan i Dreorci, i sefydlu Cymdeithas yr Iaith ac yna sefydlu’r Cynulliad, mae awdur y gyfrol enwog Hanes Cymru yn adrodd ei stori bersonol ef yn ystod y degawdau diwethaf o newid.
Mae hefyd yn trafod digwyddiadau hanesyddol mwy diweddar, megis refferendwm annibyniaeth yr Alban a phenderfyniad y llywodraeth i gymeradwyo Deddf Priodas Cyplau o’r Un Rhyw yng Nghymru a Lloegr.
“Yn gynharach eleni es i’r Alban gyda’r gobaith o gynorthwyo’r ymgyrch annibyniaeth yno,” meddai John Davies.
“Pe bawn yn Albanwr, byddwn yn teimlo bod y Sefydliad Prydeinig – neu Seisnig – wedi twyllo’r genedl.”
Yn ystod ei deithiau di-ri yn darlithio ar hyd a lled Cymru, mae rhai yn arbennig wedi aros yn y cof.
“Anrhydedd arbennig oedd siarad yn nathliad mis hanesyddol LGBT, a hynny yn y Senedd,” ychwanegodd yr hanesydd.
“Rhyfedd ac ardderchog ar ôl y canrifoedd o sarhad mae pobl LGBT wedi’i ddioddef oedd annerch aelodau’r mudiad mewn adeilad mor uchel ei fri.”