Kirsty a Catherine Fields Llun: Johnny Hathaway Photography
Mae dwy efaill Gymraeg sy’n byw gyda chyflwr niwrolegol prin wedi ennill gwobr am greu rhaglen ar S4C oedd yn adrodd hanes eu bywyd.
Mae Catherine a Kirsty Fields, 18 oed, o ardal Llanelli yn byw gyda chyflwr sy’n effeithio ar eu cyhyrau a’u gallu i siarad ac fe wnaeth y ddwy ymddangos ar raglen Fy Chwaer a Fi yn defnyddio dyfeisiadau cyfathrebu electronig arloesol.
Fe enillodd y rhaglen wobr am y Portread Gorau o Anabledd ar Sgrin yng ngwobrau’r Creative Diversity Network (CDN).
Yn ogystal â’r wobr CDN, mae’r rhaglen eisoes wedi derbyn sawl anrhydedd gan gynnwys gwobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol (RTS) a’r New York Festivals Awards.
‘Codi ymwybyddiaeth’
Dywedodd Comisiynydd Ffeithiol S4C, Llion Iwan: “Rydym yn hynod falch o’r wobr, sy’n cydnabod stori a oedd yn fodd i agor y drws ar salwch sy’n wynebu unigolion a’u teuluoedd yn ddistaw bach tu nôl i ddrysau caeedig.”
Ac yn ôl cyfarwyddwr Fy Chwaer a Fi, Mei Williams, mae’r rhaglen yn adrodd stori “sydd o werth gwirioneddol i’r gynulleidfa”:
“Bwriad y rhaglen oedd codi ymwybyddiaeth am fywydau pobol anabl, ac mae’r ffilm yn sicr wedi llwyddo i wneud hynny ledled y byd bellach.
“Mewn oes lle mae rhaglenni masnachol eu naws yn dominyddu’r tonfeddi mae’n achos balchder i ni yng Nghymru bod S4C yn ddarlledwr sy’n gwerthfawrogi bod angen adrodd straeon sydd o werth gwirioneddol i’r gynulleidfa.”