Maes Awyr Caerdydd
Fe fydd Maes Awyr Caerdydd yn derbyn £3.5 miliwn o arian cyhoeddus yn y gobaith o ddenu rhagor o gwmnïau awyr i mewn ac allan o’r brifddinas.

Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod wedi i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones gael ei holi gan Aelodau’r Cynulliad ynglŷn â’r mater.

Wrth ateb cwestiynau am y cynllun, dywedodd fod y maes awyr bellach yn ddibynnol ar deithiau hir am ei arian.

Cafodd y maes awyr ei brynu gan Lywodraeth Cymru am £52 miliwn yn 2013.

Ers hynny, cyfnod digon cymysg gafodd y maes awyr o ran nifer y teithwyr.

Yn fwyaf diweddar, penderfynodd y cwmni o’r Almaen Germanwings atal hediadau rhwng Caerdydd a Dusseldorf o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

Ond mae Ryanair bellach yn cynnal teithiau unwaith eto ar ôl bwlch o wyth mlynedd.

Dywedodd Carwyn Jones ddoe ei fod yn ffyddiog na fyddai’r maes awyr yn parhau i golli symiau sylweddol o arian.