Mae angen annog mwy o ddisgyblion i barhau â’u hastudiaethau yn Gymraeg yn yr ysgol uwchradd ac mae angen rhoi gwybod iddyn nhw am y manteision y gall astudio’r iaith eu cael.

Dyna ddywedodd Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, wedi i adroddiad gan y corff arolygu ddarganfod mai’r disgyblion sy’n dilyn y nifer uchaf o gymwysterau TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg sydd â’r gallu gorau i drafod ac ysgrifennu yn Gymraeg.

Bu Estyn yn ymweld â deg ysgol ddwyieithog yng Nghymru ac fe welwyd mai Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sydd â’r gyfran uchaf o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg iaith gyntaf.

Dim ond mewn traean o’r ysgolion oedd y rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg Iaith gyntaf yn dilyn dwy TGAU neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfleoedd

Meddai Ann Keane, y Prif Arolygydd: “Yn yr ysgolion lle ceir cyfran uchel o ddisgyblion yn astudio TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg, mae’r mwyafrif yn rhugl yn y Gymraeg ar draws amrywiaeth o gyd-destunau.

“Yn yr ysgolion sydd â chyfran isel o ddisgyblion sy’n dilyn TGAU trwy gyfrwng y Gymraeg, nid yw mwyafrif y disgyblion yn hyderus yn siarad nac yn ysgrifennu yn Gymraeg gan nad oes digon o gyfleoedd iddyn nhw ddefnyddio’r iaith ar draws pob pwnc.

“Fodd bynnag, dim ond mewn traean o ysgolion dwyieithog y mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion sy’n astudio Cymraeg mamiaith yn dilyn dwy TGAU ychwanegol neu fwy trwy gyfrwng y Gymraeg.

Gostyngiad

Ychwanegodd Ann Keane bod cyfran y disgyblion sy’n astudio Cymraeg Iaith gyntaf ar y cyfan yn gostwng wrth iddyn nhw fynd trwy eu haddysg.

“Er mai Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin sydd â’r gyfran uchaf o ddisgyblion yng nghyfnod allweddol 4 sy’n astudio Cymraeg mamiaith, gostyngodd nifer y disgyblion sy’n dewis y llwybr hwn gan ryw un o bob pum disgybl rhwng cyfnodau allweddol 2 a 4.

“Mae angen annog mwy o ddisgyblion i barhau â’u hastudiaethau yn Gymraeg wrth iddynt fynd i ysgol uwchradd ac mae angen rhoi gwybod iddynt am y manteision y gall astudio yn Gymraeg eu dwyn iddynt.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ac yn dweud y dylai ysgolion osod targedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n parhau i astudio Cymraeg ac ehangu ystod y cymwysterau sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.