Dyw Dafydd Iwan ddim yn credu y dylai 'Delilah' gael ei chanu mwyach
Mae Dafydd Iwan wedi awgrymu y dylai cefnogwyr rygbi Cymru beidio â chanu cân ‘Delilah’ mwyach – oherwydd bod y geiriau’n “anfoesol”.
Mae cân enwog Tom Jones yn adnabyddus i unrhyw un sydd yn mynychu gemau rygbi Cymru ac yn cael ei chlywed yn aml yn Stadiwm y Mileniwm ar ddiwrnod gêm.
Ond yn ôl y canwr mae’r geiriau – am ddyn sydd yn trywanu dynes i farwolaeth ar ôl ei gweld ym mreichiau dyn arall – yn “ddi-chwaeth”, ac fe ddylai cefnogwyr ystyried y geiriau o ddifrif.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Christine Chapman ei bod hi’n “caru” y gân, ond efallai y dylid newid y geiriau er mwyn ei gwneud hi’n llai “andwyol” i ferched.
Beth yw’ch barn chi? A yw geiriau o’r fath mewn caneuon yn amhriodol erbyn heddiw, ac oes angen eu newid, neu beidio â chanu Delilah bellach?
Neu a yw ceisio addasu neu sensro caneuon yn y modd yma yn mynd yn rhy bell? Oes wir angen newid cân mor boblogaidd sydd bellach yn rhan o draddodiad rygbi yng Nghymru?