Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd
Fe fydd cwest yn cael ei agor yng Nghaerdydd heddiw i farwolaeth dau ddyn fu farw ar ôl derbyn trawsblaniad organ oedd wedi ei heintio.
Roedd y rhoddwr wnaeth roi arennau i Darren Hughes, 42, a Robert “Jim” Stuart, 67, yn dioddef o glefyd parasitig angheuol.
Bu farw’r ddau ar ôl derbyn un aren yr un ym mis Rhagfyr 2013.
Cafodd y llawdriniaethau eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Credir fod y marwolaethau wedi eu hachosi gan fwydyn parasitig o’r enw halicephalobus, sy’n byw yn y pridd ac sy’n aml yn cael ei ddarganfod ar geffylau.