Nick Ramsay
Cyn i ddadl gael ei chynnal ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod ar record Llafur a pharodrwydd y Democratiaid Rhyddfrydol i gefnogi’r blaid.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Nick Ramsay, ei fod yn “siomedig” fod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i gydweithio gyda Llafur tan etholiadau 2015.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi Llywodraeth Lafur sy’n methu ac sydd wedi difrodi gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn eithriadol yn ystod ei 15 mlynedd wrth y llyw,” meddai.
“Mae unrhyw gyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd i’w groesawu, ond mae’n ddim o’i gymharu gyda’r blynyddoedd o doriadau sydd wedi cael eu cymeradwyo gan Lafur a’u cefnogwyr, y Democratiaid Rhyddfrydol.
“Mae’r toriadau wedi gweld gwasanaethau gofal yn cael eu his-raddio a’u canoli, llai o welyau a thargedau amseroedd aros yn cael eu methu dro ar ôl tro.
“Mae’n hi’n siomedig bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cytuno i gydweithio gyda Llafur tan etholiadau 2015.”
‘Methiant’
Yn ogystal, mae Plaid Cymru yn credu fod y Llywodraeth wedi methu mewn tair agwedd “allweddol” o’r gyllideb, sef:
• Cyllideb i Gymru gyfan – lle nad yw cymunedau yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd neu lle mae mwy o ganolbwyntio ar un ardal ar draul y llall.
• Sicrhau bod cynlluniau gwario yn gyson â chynllunio tymor hir allai ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol
• Agwedd sydd yn helpu ymdrechion i fynd i’r afael â diweithdra ieuenctid a gwella sgiliau yn y tymor byr a hwy.
Dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood: “Mae penderfyniad y Llywodraeth i ymrwymo’i holl bwerau benthyca at y dyfodol i un prosiect yn un cwr o’r wlad yn un gwael ac yn nodweddiadol o’u hagwedd at fuddsoddi mewn seilwaith yn y wlad hon.
“Mae Plaid Cymru yn pwysleisio’r angen i ni gael ein trin yn gyfartal. Nid triniaeth arbennig – triniaeth deg.
“Yn y cyfamser, mae angen cyllideb i Gymru gyfan gan Lywodraeth Cymru, ond gwaetha’r modd, does dim golwg o hyn.”
Bydd y gyllideb yn cael ei thrafod yn y Senedd tua 4yp heddiw.