Mae adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn amlygu problemau mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn mewn ysgolion uwchradd ac yn datgelu bod y system fel y mae hi yn annigonol.
Mae’r adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru’n edrych ar y modd mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswydd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i gynllunio ar gyfer ddisgyblion anabl.
Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler: “Er bod dyletswyddau statudol clir wedi’u gosod i sicrhau bod ysgolion yn hygyrch, nid yw hyn wedi bod yn ddigonol.”
Problemau
Daeth yr adroddiad i’r casgliad fod y drefn o ymgeisio am le mewn ysgol uwchradd yn frwydr i deuluoedd plant anabl gyda llawer yn teimlo fod rhaid iddyn nhw frwydro a chyfaddawdu er mwyn sicrhau’r bywyd ysgol gorau i’w plant.
Mae disgwyl hefyd, i rai plant ag anawsterau symudedd, adael eu ffrindiau a mynd i ysgol sydd wedi cael ei phennu’n hygyrch gan awdurdodau addysg lleol – ond dyw’r ysgolion hynny ddim mor hygyrch â hynny.
Ychwanegodd yr adroddiad fod agweddau negyddol staff mewn ysgolion ac awdurdodau lleol yn peri pryder ymhlith gweithwyr proffesiynol a bod adroddiadau bod plant sy’n defnyddio cadair olwyn weithiau’n cael eu heithrio o rai dosbarthiadau – fel gwyddoniaeth neu goginio – oherwydd eu hanabledd.
‘Colli cyfle’
Wrth sôn am yr adroddiad dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler: “Mae addysg yn rhan allweddol o blentyndod.
“Ydy hi’n dderbyniol bod teuluoedd yn anhapus, dan straen ac yn gorfod brwydro am yr hawl i sicrhau addysg i’w plant mewn ysgol ochr yn ochr â’u cyfeillion a’u cymheiriaid, gyda rhai hyd yn oed yn symud tŷ i geisio hwyluso’r broses o bontio i’r ysgol uwchradd?”
Ychwanegodd: “Er bod dyletswyddau statudol clir wedi’u gosod i sicrhau bod ysgolion yn hygyrch, nid yw hyn wedi bod yn ddigonol.
“Rwyf i’n ei chael yn anodd derbyn nad oes gan ysgolion yr un dyletswyddau ag adeiladau cyhoeddus eraill o ran y gofynion dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i wneud eu hadeiladau’n hygyrch yn ffisegol.
“Er gwaethaf y cyfle hwn a gollwyd, mae dyletswyddau statudol yn bodoli ac mae angen i ni wneud yn siŵr fod awdurdodau addysg lleol ac ysgolion yn cyflawni’r ymrwymiadau hyn.”
Gwelliannau
Mae’r adroddiad yn amlygu chwe blaenoriaeth ar gyfer gwella. Mae’r rhain yn cynnwys galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei harweiniad 10 mlwydd oed ar gynllunio ar gyfer cynyddu mynediad i ysgolion i ddisgyblion ag anableddau o fewn y 12 mis nesaf.
Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar yr holl awdurdodau addysg lleol i gynnal archwiliad o’u stoc ysgolion uwchradd o fewn y 12 mis nesaf i sicrhau bod ganddynt wybodaeth glir am y sefyllfa gyfredol ysgolion o ran mynediad i ddisgyblion ag anableddau yn eu hardal.