Cyngor Sir Conwy
Mae Cynghorwyr yng Nghonwy a Sir Ddinbych wedi pleidleisio o blaid cyflwyno mynegiant o ddiddordeb i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r posibilrwydd o uno gwirfoddol.
Dyma’r tro cyntaf i ddau gyngor gytuno ar uno yn wirfoddol wedi i Gomisiwn Williams argymell cwtogi nifer y cynghorau yng Nghymru.
Er bod Sir Ddinbych wedi gwrthod y syniad yn y gorffennol, fe wnaeth y ddau gyngor bleidleisio o blaid y newid mewn cyfarfodydd ar wahân y prynhawn ma.
Os fydd Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo’r uno ym mis Ionawr 2015, bydd gwaith yn dechrau ar baratoi achos busnes llawn ar gyfer uno, i’w ystyried gan y ddau gyngor yn ystod haf 2015.
‘Ystyried achos busnes llawn’
Dywedodd Arweinydd Sir Ddinbych, y Cynghorydd Hugh Evans: “Ni yw’r cynghorau cyntaf yng Nghymru i fynegi diddordeb yn gyhoeddus yn y posibilrwydd o uno ag awdurdod cyfagos, ond rhaid i ni ei gwneud yn glir bod hyn yn fynegiant o ddiddordeb ac nid yn achos busnes llawn ar gyfer uno.
“Rydym wedi cytuno i edrych ar yr opsiynau yn ffurfiol, gyda’r bwriad o ystyried cyflwyno achos busnes llawn yn yr haf. Credwn fod nifer o resymau pwysig i symud ymlaen i ddatblygu achos busnes llawn.”
Yn ôl Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, y Cynghorydd Dilwyn Roberts, mae yna debygrwydd rhwng y ddwy ardal ac fe allai arbedion cost gael eu gwneud,
“Mae cefnogaeth galonogol gynnar gan Lywodraeth Cymru ac mae manteision i uno gwirfoddol dros symudiad gorfodol, ond mae hefyd risgiau i reoli’r broses uno a’r canlyniad. Bydd hyn i gyd yn cael ei ystyried pan fydd achos busnes llawn yn cael ei lunio.”