Leanne Wood (ar y dde) gydag arweinydd newydd yr SNP, Nicola Sturgeon
Mae arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi rhoi araith yng nghynhadledd flynyddol plaid yr SNP yn yr Alban, gan ddweud y dylai rhanbarthau datganoledig y Deyrnas Gyfunol gael rhoi eu barn ar faterion “Prydeinig”.

Mae’r Deyrnas Unedig yn fwy na Lloegr oedd un o’i negeseuon, wrth ddadlau pam y dylai trigolion Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ddweud eu dweud ar faterion sydd heb eu datganoli o San Steffan.

“Dylai’r pwerau ‘canolog’ olygu pwerau ‘a rennir’,” meddai Leanne Wood. “Bydd llywodraeth Plaid Cymru o 2016 yn mynnu ar benderfyniadau pwysig ar lefel y DU i gael consensws clir rhwng y llywodraethau.

“Ni chafodd gwladwriaeth newydd ei sefydlu ym mis Medi, ond rydych wedi adeiladu democratiaeth newydd a does dim un blaid na llywodraeth all ddatgysylltu hynny.

“Rhaid i’r realiti gael ei adlewyrchu wrth i’r berthynas rhwng ein gwledydd gael ei ail-adeiladu yn y misoedd nesaf.

“Dylai llywodraethau ddatganoledig gael dweud eu dweud ar benderfyniadau gwleidyddol mawr fel amddiffyn a lles, a wnaed ar lefel y Deyrnas Unedig.”