Mae David Cameron wedi gwadu fod y blaid Geidwadol yn bwriadu codi lefel Treth Ar Werth ar ol yr etholiad cyffredinol nesa’ – a hynny er mwyn ariannu toriadau o £7bn mewn treth incwm.
Mae Prif Weinidog gwledydd Prydain hyd yma wedi gwrthod egluro sut y byddai’n talu am y cynlluniau a gafodd eu cyhoeddi yn ystod cynhadledd y Ceidwadwyr fis diwetha’.
Y bwriad ydi codi’r trothwy ar gyfer y dreth 40c i £50,000, yn ogystal a chodi’r lwfans personol fel bod dim rhaid i unigolyn ddechrau talu treth tan y bydd yn ennill £12,500.
Mae Llafur wedi bod yn awgrymu mai trwy godi TAW y byddai’r Toriaid yn ariannu’r cynlluniau.
“Does gyda ni ddim cynlluniau i wneud hynny,” meddai David Cameron heddiw, “oherwydd dydyn ni ddim am weld treth yn codi o gwbwl.
“Rydyn ni am weld pobol yn gwario’u harian yn gyfrifol, dan reolaeth, ac yn cynilo mwy. Wedyn, fe fydd pobol yn gweld y gwerth o warchod eu harian a’i ddefnyddio fel y maen nhw’n dymuno.”