Mae rhan o draeth yn Hawaii wedi ail-agor, wedi i ddeifiwr honni iddo gael ei frathu gan siarc.
Mae’r adran Tir ac Adnoddau Naturiol wedi cadarnhau fod dyn 50 oed o Alasga wedi riportio i siarc ymosod arno yn yr ardal brynhawn ddoe.
Roedd y deifiwr yn snorclo ger Airplane Beach, gorllewin Maui, pan welodd siarc pum troedfedd o hyd, pan deimlodd hergwd, ac yna boen ofnadwy.
Fe nofiodd i’r lan, ac fe gafodd ei gludo i ysbyty i dderbyn triniaeth i friw ar ei goes.
Mae’r traeth wedi ail-agor wedi i hofrennydd hedfan dros yr ardal i chwilio am arwyddion o fwy o siarcod, a methu gweld dim.