Osama bin Laden
Mae’r cyn-filwr Americanaidd sy’n honni saethu’n farw Osama bin Laden, wedi datgelu mwy o fanylion o’r ymgyrch.
Mae’r cyn-aelod o lynges SEAL yr Unol Daleithiau, Robert O’Neill, yn dweud ei fod yn credu bod gan y cyhoedd yr hawl i wybod mwy am y cyrch i ddal ac i ladd yr arweinydd al Qaida, ynghyd a rhai o’i anturiaethau milwrol eraill.
Mae hefyd yn dweud ei fod yn bod yn ofalus iawn wrth beidio a datgelu manylion cyfrinachol sy’n cael eu defnyddio gan y SEAL i ddal eu gelynion.
“Y peth ola’ dw i am ei wneud yw peryglu bywydau neb,” meddai O’Neill. “Dw i’n meddwl fod y lles ddaw o ddatgelu’r wybodaeth hon yn fwy na’r anfanteision.”
Drwy gydol yr wythnos ddiwetha’, fe fu’r cyn-filwr yn trafod ei rol yn y cyrch i ddal bin Laden, a hynny mewn cyfres o ddigwyddiadau yn Washington. Fe wnaeth gyfres o gyfweliadau teledu ac ymddangosiadau ar y cyfryngau – ac mae wedi ennyn canmoliaeth a beirniadaeth o ganlyniad.
“Ychydig droedfeddi o’m blaen, ar ei ddwy droed, roedd Osama bin Laden,” meddai. “Fe saethais e dair gwaith yn ei ben, ac fe laddais i e.”