Shereen Williams (o'i thudalen Twitter)
Fe allai fod yn gamgymeriad i wrthod gadael i wirfoddolwyr  y mudiad milwrol IS ddod yn ôl i wledydd Prydain, meddai pennaeth elusen Gymreig.

Fe allai rheolau sydd newydd gael eu cyhoeddi gan Brif Weinidog Prydain arwain at ddal pobol mewn cylch cas, yn ôl Shereen Williams, Cyfarwyddwraig Sefydliad Henna sy’n gweithio gyda theuluoedd Moslemaidd yng Nghymru.

Heb iddyn nhw ddod yn ôl, fydd neb yn gwybod pam fod pobol ifanc o’r fath yn cael eu denu i fynd i ymladd yn Syria ac Irac, meddai wrth Radio Wales.

Y rheolau newydd

Fe fyddai’r rheolau newydd yn effeithio ar nifer o Foslemiaid ifanc o Gaerdydd, un o’r canolfannau ar gyfer recriwtio milwyr i IS.

Yn ôl y mesurau newydd, fe allai dinasyddion o wledydd Prydain sy’n mynd i ymladd ar ran mudiadau eithafol golli eu passports tros dro a chael eu rhwystro rhag dod yn ôl.

Fe fyddai’r mesurau’n atal pobol sy’n teithio o Syria neu Irac rhag dychwelyd i Brydain am o leia’ ddwy flynedd, os nad ydyn nhw’n cydymffurfio gyda rheolau llym gan gynnwys cael eu hebrwng yn ôl i Brydain i wynebu carchar.

Fe fyddai gan swyddogion a heddlu mewn meysydd awyr hefyd hawl i gymryd pasbort unrhyw un, gan gynnwys pobol o dan 18 oed, sy’n cael eu hamau o gynllwynio i hedfan i ymladd ar ran IS.

500 o ddinasyddion Prydeinig

Yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn, roedd y rhan fwyaf o bobol oedd yn teithio i Syria ac Irac i ymladd rhwng 16-21 oed.

Mae tua 500 o ddinasyddion Prydeinig wedi teithio dramor i ymladd gydag IS ers hynny, gan gynnwys o leia’ dri dyn ifanc o Gaerdydd.

O dan y mesur, byddai unrhyw gwmni hedfan sy’n cario pobol sy’n cael eu hamau o fod yn aelodau o grwpiau eithafol yn wynebu cosb.

Awstralia

Fe wnaeth David Cameron y cyhoeddiad mewn araith yn Awstralia gyda’r bwriad o greu cyfraith newydd erbyn mis Ionawr.

Mae’r cynlluniau wedi derbyn sêl bendith y Democratiaid Rhyddfrydol ond mae disgwyl y bydd gwrthwynebwyr yn dadlau fod cymryd pasbort unigolyn yn mynd yn groes i gyfraith ryngwladol.