Mubarik Elmi
Mae’r Heddlu’r De yn wedi dod o hyd i fachgen 11 oed oedd ar goll yng Nghaerdydd.
Cafodd pryderon eu codi am les Mubarik Elmi wedi iddo fethu a dychwelyd adref o’r ysgol bnawn dydd Llun.
Bu’r heddlu’n archwilio pob rhan o’r ddinas er mwyn ceisio dod o hyd iddo.
Ond dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bore ma eu bod nhw bellach wedi dod o hyd iddo’n ddiogel ac maen nhw wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.