Kirsty Williams
Fe fydd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, yn dadlau heddiw y dylai etholwyr gael yr hawl i gael gwared ar eu Haelod Cynulliad lleol petai nhw’n ymddwyn yn amhriodol.

Bydd hi’n cyflwyno araith ar y pwnc ym Mae Caerdydd yn ddiweddarach.

Yn ôl Kirsty Williams, mae hi’n “anghywir” fod gwleidydd yn gallu camymddwyn ond nad oes modd eu diswyddo rhwng etholiadau.

Byddai trefn newydd yn rhoi’r “pŵer yn nwylo’r etholwyr,” meddai’r arweinydd.

Diffyg trafodaeth

“Mae dadl yn poethi am hyn yn San Steffan. Rwy’n croesawu hynny. Ond yng Nghymru, nid yw’r pwnc wedi bod ar yr agenda o gwbl,” meddai Kirsty Williams.
“Heddiw, mi fydda i yn ei roi ar yr agenda ac yn dweud yn glir fy mod i’n credu y dylai pobol Cymru gael yr hawl i alw Aelodau Cynulliad yn ôl.
“Byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn rhoi pwerau go iawn i bobol i sicrhau bod gwleidyddion yn atebol.”
Colli sedd

Ychwanegodd Kirsty Williams: “Mae rhywbeth yn gwbl anghywir gyda’r ffaith bod gwleidydd yn cael gwneud fel y myn, unwaith y mae o neu hi wedi cael eu hethol, ac na all yr etholwyr wneud dim byd amdano am bum mlynedd.”

Ar hyn o bryd, ni fyddai AC yn colli ei sedd y tu allan i etholiad oni bai eu bod nhw’n cael eu hanfon i’r carchar am fwy na 12 mis.

“Mae hynny’n drothwy uchel, ac rwy’n credu bod angen i hynny newid.

“Byddai hawl i alw AC yn ôl yn rhoi pŵer yn nwylo’r bobol.”