Ed Miliband
Mae’r Blaid Lafur yn ceisio tawelu’r dyfroedd heddiw yn dilyn wythnos dymhestlog o ddyfalu am ddyfodol Ed Miliband fel arweinydd y blaid.
Bydd Miliband yn gwneud araith o flaen arweinwyr busnes yn nodi’r gwahaniaethau rhwng ei blaid a’r Ceidwadwyr ynglŷn â’i hagwedd tuag at yr Undeb Ewropeaidd, tra’n ceisio ail gydio yn yr awenau.
Yn y cyfamser, bydd Aelodau Seneddol yn cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin i drafod materion y blaid, gyda’r si ar led fod 20 o weinidogion ar fin galw ar Ed Miliband i ymddiswyddo.
Ddydd Sul, dywedodd Neil Kinnock y dylai’r rhai sy’n gwrthwynebu arweinyddiaeth Miliband naill ai dawelu neu gyhoeddi eu gwrthwynebiad.