Nick Ramsay
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu ffigyrau newydd sy’n dangos bod Llywodraeth Cymru wedi gwario 80% yn llai ar eu deunydd ysgrifennu ers 2009.
Er hyn, mae’r blaid yn cyhuddo gweinidogion o “wastraffu” arian y trethdalwyr yn ddiangen a hefyd yn cwestiynu pam fod y bil wedi bod mor uchel yn y lle cyntaf.
Yn 2009, cafodd £2 miliwn ei wario ar ddeunydd ysgrifennu i weinidogion ond fe gafodd y bil ei haneru yn 2010 i £917,000 ac i £424,000 y llynedd.
Gwastraffus
Dywedodd Nick Ramsay, llefarydd y Ceidwadwyr: “Mae’r ffigyrau’n dangos bod y Llywodraeth wedi bod yn gwario’n wastraffus ar ei deunydd ysgrifennu, ar ôl iddi ei gwtogi’n rhyfeddol o 80% dros y pedair blynedd ddiwethaf.
“Er bod gostyngiad yng ngwariant y trethdalwyr i’w groesawu, mae cwestiynau yn codi am sut oedd y bil mor uchel yn y lle cyntaf.
“Mae arbediad o tua £1.6 miliwn bob blwyddyn mewn un adran o wariant y Llywodraeth yn dangos bod mwy o le i weinidogion leihau eu costau ac ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus.”
Ychwanegodd Paul Davies AC: “Mae’r ffigyrau yn awgrymu faint o arian oedd Llywodraeth Cymru yn ei wastraffu cyn i’r toriadau gael eu cyflwyno.
“Mae’n rhaid i’r gweinidogion gofio fod eu cyllid blynyddol o £15 biliwn yn dod gan drethdalwyr Cymru sy’n gweithio’n galed iawn i’w dalu.”
‘Sicrhau’r gwerth gorau posib am arian’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn parhau i ymdrechu i leihau’r hyn rydym yn ei wario ar offer swyddfa.
“Rydym yn benderfynol o sicrhau’r gwerth gorau posib am arian i drethdalwyr Cymru a byddem yn parhau i geisio darganfod arbedion pellach.”