Yn Nigeria, mae hunan fomiwr wedi ffrwydro dyfais mewn ysgol uwchradd gan ladd 48 o fyfyrwyr, yn ôl adroddiadau.

Credir bod y rhai fu farw rhwng 11 a 20 oed.

Dywed gweithwyr mewn ysbytai lleol eu bod yn rhoi triniaeth frys i 79 o bobl.

Roedd milwyr wedi cyrraedd y safle yn Potiskum, yng ngogledd ddwyrain y wlad, ond fe gawson nhw eu rhwystro gan bobl yn taflu cerrig atyn nhw. Maen nhw’n beio’r milwyr am fethu ag atal y grwp eithafol Boko Haram sydd wedi lladd miloedd dros y pum mlynedd diwethaf ac wedi achosi i gannoedd o filoedd ffoi o’u cartrefi.

Roedd hunan-fomiwr wedi lladd 30 o bobl yn y ddinas wythnos diwethaf.

Yn ôl llygad-dystion, roedd 2,000 o fyfyrwyr wedi ymgynnull ar gyfer gwasanaeth yn y coleg pan ffrwydrodd y ddyfais oedd yn cael ei chario mewn bag ysgol.