Y bwthyn yng Ngheinws
Mae gwaith wedi dechrau ar ddymchwel hen dŷ Mark Bridger, sydd wedi ei gael yn euog o lofruddio’r ferch bum mlwydd oed April Jones o Fachynlleth.

Ers ei llofruddiaeth yn 2012 mae rhieni April, Coral a Paul Jones, wedi galw am ddymchwel y tŷ ym mhentref Ceinws.

Fe brynodd Llywodraeth Cymru’r tŷ ym mis Ebrill fel bod modd dymchwel yr adeilad. Credir bod y Llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda’r perchennog i’w brynu am £149,000.

Ddydd Sadwrn, fe gafodd sgaffaldiau eu gosod o amgylch y tŷ yn barod i’r broses o’i ddymchwel gychwyn.

Dedfryd

Roedd y tŷ yn cael ei rentu gan Mark Bridger, 48, pan gipiodd April Jones wrth iddi chwarae gyda’i ffrindiau ger ei chartref ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth ar 1 Hydref 2012.

Mae ditectifs yn credu bod Bridger wedi llofruddio’r ferch ysgol yn y bwthyn cyn cael gwared a gweddillion ei chorff mewn sawl lleoliad yn yr ardal.

Mae wedi cychwyn dedfryd o oes yn y carchar am ei llofruddio.