Mae mwyafrif o bobol Cymru eisiau gweld disgyblion yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg, yn ôl canlyniadau arolwg barn ddiweddar.

Mae llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith, a gomisiynodd yr arolwg gan YouGov, wedi dweud bod y canlyniadau yn “gadarnhaol iawn”.

Roedd 56% o’r bobol a gafodd eu holi yn cytuno y dylid dysgu pob disgybl i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg, gyda 33% o bobol yn anghytuno , ac 11% ddim â barn ar y mater.

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd addysg Cymdeithas yr Iaith: “Ddylai ein trefn addysg ddim amddifadu’r un plentyn o’r hawl i allu cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg.

“Ar hyn o bryd, mae’r system yn methu ac yn creu dinasyddion eilradd, nad ydyn nhw ddim yn cael yr un cyfleoedd gwaith a diwylliannol ag eraill a hynny oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni.

“Mae’n galonogol iawn gweld bod pobol Cymru yn cytuno gyda ni.”

‘Dim esgus i ohirio gweithredu’

Cafodd yr arolwg ei gynnal wrth i’r Athro Graham Donaldson baratoi adolygiad o’r cwricwlwm a fydd yn argymell newidiadau i Weinidogion Cymru ar droad y flwyddyn.

Mae’r adolygiad yn ystyried canlyniadau adroddiad annibynnol gan yr Athro Sioned Davies, wnaeth feirniadu’r system addysg Gymraeg ail iaith yn hallt.

Ychwanegodd Ffred Ffransis: “Yr her i’r Athro Donaldson a Llywodraeth Cymru nawr yw gweithredu yn ôl ewyllys y bobol i sicrhau bod y system yn cyflawni ar gyfer pob un plentyn, nid y rhai ffodus yn unig.

“Does dim lle bellach i’r Athro Donaldson fod dan unrhyw gamargraff am farn pobol Cymru, a does dim esgus i’r Llywodraeth ohirio gweithredu.”

Pynciau

Mae Cymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylai pob ysgol yng Nghymru addysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod holl bobol ifanc Cymru yn gadael yr ysgol yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg.

Roedd 42% yn credu y dylid dysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion Saesneg a 48% yn erbyn.

Fodd bynnag, roedd mwy o gefnogwyr y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn cytuno y dylid dysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol nag oedd yn anghytuno.

Roedd pobl ifanc 18-24 sydd newydd adael y gyfundrefn addysg eu hunain hefyd yn cytuno gyda’r polisi.
Cafodd 1,043 o oedolion eu holi fel rhan o’r arolwg ar-lein.

Dyma’r canlyniadau ar ffurff graff:

http://cdn.yougov.com/cumulus_uploads/document/rxubpz1nnk/Results_141030_Cymdeithas_yr_Iaith_w.pdf